Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/ Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
30 Medi 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg
(45 munud)
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Cwestiynau Amserol.
4 Datganiadau 90 eiliad
(5 munud)
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
(60 munud)
NDM7401 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Senedd Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2020.
6 Dadl Aelod o dan Rheol Sefydlog 11.21 (iv) Incwm Sylfaenol Cyffredinol
(60 munud)
NDM7384 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y niwed y mae tlodi'n ei wneud i gyfleoedd bywyd ac nad yw gwaith bellach yn llwybr gwarantedig allan o dlodi;
b) bod y pandemig wedi gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn gorfod troi at gymorth elusennol fel banciau bwyd;
c) yr oedd twf y DU, hyd yn oed cyn y pandemig, yn wael a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o awtomeiddio, sy'n gosod niferoedd cynyddol o swyddi mewn perygl;
d) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac, yn ogystal, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl;
e) y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi;
f) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu cymdogion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i sefydlu treial incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru;
b) i lobïo Llywodraeth y DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru.
Cefnogwyr
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwerth am Arian i Drethdalwyr
(60 munud)
NDM7404 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol.
2. Yn gresynu at y ffaith bod dros £1 biliwn wedi'i wastraffu gan Lywodraethau olynol Cymru ar bolisïau di-rym, prosiectau y cefnwyd arnynt a gorwario yn erbyn cyllidebau ers 2010.
3. Yn gresynu ymhellach at y ffaith y caniatawyd i bolisïau Cymreig a allai fod wedi bod yn rhai da edwino oherwydd diffyg cefnogaeth a phenderfyniadau a wnaed gan ganolbwyntio ar y tymor byr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu swyddfa drawsadrannol sydd wrth wraidd y llywodraeth i sbarduno newid diwylliant, herio'r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei ddarparu i drethdalwyr.
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol ac yn cydnabod bod economeg cyni yn cynnig gwerth gwael am arian.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tanariannu a / neu wedi rhwystro nifer o brosiectau, gwasanaethau a seilweithiau heb eu datganoli yng Nghymru, gan gynnwys ymchwil a datblygu, rheilffyrdd, cysylltiad band eang ac ynni’r llanw ers 2010.
3. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu’r terfyn cyfalaf, Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Gronfa Cadernid Economaidd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru er budd rheoli cyllidebau yn dda
Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo'n unol â hynny:
Yn credu bod methiant Llywodraeth Cymru i gyflawni ei pholisïau wedi helpu i gyfrannu at y diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth sydd wedi golygu na chymerodd dros hanner etholwyr Cymru ran yn etholiadau'r Senedd.
Gwelliant 3 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw am refferendwm cyfrwymol ynghylch a ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig Cymru, yn sgil methiannau Llywodraeth Cymru.
Gwelliant 4 Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau gwerth am arian drwy:
a) cydnabod bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwastraffu yn y trydydd sector preifat, drwy ddyblygu a rheoli pendrwm;
b) democrateiddio'r gwasanaethau a ddarperir drwy ailgyfeirio cyllid i lywodraeth leol yng Nghymru.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7403 Rhun ap Iorwerth (Ynys)
Yr heriau a’r cyfleon i economi Môn: Cyfle i fwrw golwg eang ar economi Môn, yn cynnwys pryderon difrifol Brexit, yr heriau a’r cyfleon ym maes ynni, a sut i greu cynaliadwyedd cymunedol ac amgylcheddol wrth greu cyfleon economaidd newydd.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Hydref 2020